Newyddion
Hysbysiad Am Gwblhau Archwiliad Ac Am Yr Hawl i Arolygur Cofnod Blynyddol Cofnod Blynyddoedd Am Y Flwyddyn Yn Gorffen 31 Mawrth 2024
Lawrlwythwch yma - Download here

Cyfyngiadau Gwastraff Gweddilliol Cyngor Sir Ceredigion
Cyfyngiad ar wastraff ar ymyl y palmant
O 23 Mehefin 2025, bydd eiddo domestig yng Ngheredigion yn cael eu cyfyngu i un sach wastraff gweddilliol yr wythnos, sy’n cyfateb i dri sach fesul cylch casglu 3 wythnos. Mae hyn yn ychwanegol at wastraff CHA o gwsmeriaid cofrestredig CHA, lle mae’r gwastraff yn bodloni meini prawf CHA, ac yn cael ei gyflwyno’n gywir i’w gasglu mewn bagiau CHA.
Rwy'n atodi poster a byddwn yn ddiolchgar pe gallech drefnu i'r rhain gael eu gosod mewn siopau lleol, hysbysfyrddau pentref, mannau addoli ac ati er mwyn cyrraedd cymaint o drigolion â phosibl.
Am fwy o wybodaeth am y cyfyngiad a cwestiynau a ofynnir yn aml , ewch i'n gwefan: Gwastraff Gweddilliol (Gwastraff Nad Oes - Cyngor Sir Ceredigion
Newidiadau i Safleoedd Gwastraff Cartref
Er mwyn atal trigolion rhag mynd â'u bagiau gwastraff gweddilliol i Safle Gwastraff Cartref er mwyn osgoi'r cyfyngiad, bydd arferion "dim gwastraff heb ei ddidoli" yn cael eu rhoi ar waith ar Safleoedd Gwastraff Cartref y sir.
Nid yw hwn yn waharddiad llwyr ar wastraff nad oes modd ei ailgylchu, ac ar hyn o bryd nid oes terfyn ar faint o wastraff nad oes modd ei ailgylchu y gellir ei gymryd i Safle Gwastraff Cartref, yn amodol ar yr amodau canlynol:
• Mae’r gwastraff yn dod o eiddo yng Ngheredigion (bydd angen prawf o gyfeiriad)
• Mae’r gwastraff yn dod o eiddo domestig. Mae hyn yn eithrio unrhyw wastraff sy’n deillio o weithgarwch masnachol fel llety gwyliau
• Nid yw'r cynhwysydd gwastraff nad yw'n cael ei ailgylchu yn cynnwys unrhyw beth y gellid ei ailgylchu ar ochr y palmant, neu ar y Safle Gwastraff Cartref
Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan: Safle Gwastraff Cartref a Banciau - Cyngor Sir Ceredigion

Diogelwch Beic Cwad
Crime Prevention Quad Bike poster

Ydy'ch cyfrif Facebook yn ddiogel?
Medrwch helpu i atal hyn:
- Galluogwch brawf dilysu dau gam-bydd hyn yn rhoi gwybod ichi os oes rhywun arall yn ceisio cael mynediad i'ch cyfrif Sicrhewch fod eich gosodiadau preifatrwydd wedi'u diweddaru ar Facebook.
- Os yw cynnig yn swnio'n rhy dda i fod yn wir, mae'n bosib iawn ei fod.
- Peidiwch â chlicio ar ddolen sy'n addo rhywbeth y gwyddoch nad oes gennych hawl iddo-hyd yn oed yn y gobaith ofer y gallech dderbyn arian amdano Peidiwch â nodi'ch manylion ar wefannau neu ffurflenni heblaw eich bod chi'n sicr fod y safle'n ddilys.
- Peidiwch å derbyn ceisiadau ffrind heblaw eich bod chi'n adnabod yr unigolyn sy'n anfon y cais.
- Dywedwch wrth eraill fel eu bod nhw'n medru gwarchod eu hunain rhag y troseddwyr hyn.
neu drwy alw 101.

Diogelu Cymru
Dolenni Defnyddiol
GIG 111 Gwirwyr SymptomauEwch i http://111.gig.cymru os ydych chi am wirio’ch symptomau am bob math o gyflyrau yn gyflym a dod o hyd i’r ffordd orau o’u trin nhw. Bydd yn arbed amser i chi drwy’ch helpu i ddod o hyd i’r gwasanaeth GIG cywir i drin eich symptomau. #HelpuNiHelpuChi
Uned mân anafiadau
Oeddech chi’n gwybod bod yna glinigau ar gael i drin mân anafiadau fel nad oes angen i chi fynd i’ch adran damweiniau ac achosion brys? Edrychwch i weld ble mae’ch clinig agosaf ar-lein. http://111.gig.cymru #HelpuNiHelpuChi
Fferyllfa
Oeddech chi’n gwybod bod fferyllwyr wedi’u cymhwyso i roi cyngor clinigol i chi, ac weithiau, nhw o bosib fydd orau i’ch rhoi chi ar ben ffordd i gael y cymorth cywir? Gwiriwch eich symptomau arlein 111.gig.cymru a galwch heibio’ch fferyllfa leol. #HelpuNiHelpuChi
Gwasanaethau Brys
Dylech chi ddefnyddio’ch adran frys oni bai bod gennych chi anafiadau neu salwch sy’n bygwth bywyd. Gallai gwasanaethau arall, fel uned mân-anafiadau, eich helpu yn gynt. Mae 999 ac adrannau damweiniau ac achosion brys ar gyfer achosion brys go iawn. #HelpuNiHelpuChi
Newyddion
24/06/2025
Hysbysiad Am Gwblhau Archwiliad Ac Am Yr Hawl i Arolygur Cofnod Blynyddol Cofnod Blynyddoedd Am Y Flwyddyn Yn Gorffen 31 Mawrth 2024
23/06/2025
Cyfyngiadau Gwastraff Gweddilliol Cyngor Sir Ceredigion
09/09/2024





